Grŵp Trawsbleidiol ar Iechyd Meddwl

22 Tachwedd 2023

12.30 - 13.30, drwy Teams

 

Yn bresennol:

1

Ken Skates

Cadeirydd ac AS De Clwyd

2

Simon Jones

Mind Cymru

3

Nia Sinclair

Mind Cymru (Ysgrifennydd)

4

Jemma Wray

Sefydliad Iechyd Meddwl

5

Richard Jones

Mental Health Matters

6

Peter Martin

Adferiad

7

Chloe Harrison

Adferiad

8

Eleri Williams

Building Communities Trust

9

Angie Oliver

Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AGIC)

10

Yr Athro Ian Jones

Canolfan Genedlaethol Iechyd Meddwl

11

Rachel Bowen

Swyddfa’r Comisiynydd Pobl Hŷn

12

Annabelle Llanes-Sierra

CIPD

13

Lesley Richards

CIPD

14

Lisa Roberts

RCPCH

15

Lowri Wyn Jones

Amser i Newid Cymru

16

Linsey Imms

TUC Cymru

17

Nesta Lloyd-Jones

Conffederasiwn GIG Cymru

18

Steve Mulligan

BACP

19

Abigail Rees

Barnardos

20

Naila Noori

Coleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith

21

Meg Moss

Y Gymdeithas Cwnsela Genedlaethol

22

Freya Reynolds-Feeney

Comisiynydd Plant Cymru

23

Lloyd Watkins

Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC)

24

Kathryn Morgan

Shared Lives Plus

25

Linda Newton

Gweithredu dros Iechyd Meddwl Caerdydd a’r Fro

26

Carolyn Thomas

AS Llafur ar gyfer Gogledd Cymru

27

Charlotte Knight

Swyddfa Jayne Bryant AS

 

 

 

 

 

 

1. Croeso a chyflwyniad

Croesawodd Simon Jones (SJ) bawb i’r cyfarfod. Yr eitem gyntaf oedd ethol cadeirydd ar gyfer y grŵp fel rhan o’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

Enwebwyd a phenodwyd Ken Skates MS (KS) yn Gadeirydd

Cafodd Mind Cymru ei enwebu a'i benodi i gyflawni’r rôl ysgrifenyddiaeth

Diolchodd KS i bawb am ddod a chroesawodd Chloe Harrison (CH) o Adferiad a fyddai’n rhoi cyflwyniad yn y cyfarfod heddiw.

Cyfeiriodd at yr argyfwng costau byw fel pryder mawr, gyda llawer o bobl yn cael trafferth gweld ffordd drwy'r argyfwng yn fyw ac yn iach.

Cyflwynodd Adferiad, sef elusen sy’n cael ei harwain gan aelodau sy’n darparu cymorth a chefnogaeth i bobl sydd ag anghenion iechyd meddwl, dibyniaeth ac anghenion lluosog a chymhleth.

Nododd ymgyrch ddiweddaraf yr elusen ‘Mae’n amser i gymryd y llyw!’ sy’n galw ar Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i gymryd camau i gefnogi pobl i gymryd rheolaeth o’u sefyllfa eu hunain ac i lywio eu llwybr drwy’r argyfwng a thu hwnt.

Gwahoddodd CH i roi cyflwyniad ar brif ganfyddiadau’r ymgyrch.

2. Cyflwyniad Adferiad ar yr ymgyrch ‘Mae’n amser i gymyd y llyw!

Dywedodd CH fod Adferiad yn sefydliad a arweinir gan aelodau ar draws Cymru gyfan sy’n darparu cymorth penodol i bobl sydd ag anghenion iechyd meddwl, dibyniaeth ac anghenion lluosog a chymhleth.

Cyfeiriodd at yr ymgyrch Mae’n amser i gymryd y llyw (a lansiwyd yn haf 2023) fel menter sy’n ymateb i bryderon pobl ynghylch gweld pen draw’r hinsawdd ariannol bresennol. Mae’r ymgyrch wedi teithio ledled Cymru, gan dynnu sylw at Wasanaeth Cynghori Ariannol Adferiad a chan annog pobl i gymryd rheolaeth o’u hopsiynau.

Soniodd am rai tueddiadau allweddol o ganlyniadau arolwg yr ymgyrch (sampl o 110 o ymatebwyr) gan gynnwys:

-          80% yn dweud bod eu biliau wedi cynyddu'n sylweddol dros y 18 mis diwethaf

-          67% yn dweud bod eu hiechyd meddwl wedi gwaethygu

-          Dim ond 28% a ddywedodd eu bod wedi ceisio cymorth.

Nododd CH y chwe phrif thema a ddeilliodd o’r ymatebion ansoddol i’r arolwg, a helpodd i ffurfio cynllun deg pwynt y sefydliad yn galw ar Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i wneud mwy i gefnogi pobl drwy’r argyfwng. Y ddau gais penodol yng nghyd-destun Cymru yw:

-          Datblygu cynlluniau gofal a thriniaeth mwy effeithiol

-          Darparu mynediad haws at gyngor ac eiriolaeth yn ymwneud â rheoli arian a dyledion.

Nododd fod pobl yn gyffredinol yn teimlo bod Llywodraeth Cymru yn ymateb yn fwy cadarnhaol i’r argyfwng na Llywodraeth y DU.

Diolchodd i'r grŵp am eu hamser.

3. Trafodaeth

Diolchodd KS i CH am ei chyflwyniad, gan nodi’r gwirionedd trawiadol i rai o'r ymatebion o ran y rhwystredigaeth o gael dwy lywodraeth ar wahân yn edrych i ddarparu cefnogaeth, ond y teimlwyd nad oedd y naill na'r llall yn gwneud digon. Cydnabu’r teimlad cyffredinol bod datgysylltiad rhwng y bobl a Llywodraeth y DU, a chroesawodd y safbwyntiau gwahanol yng Nghymru bod Llywodraeth Cymru yn cael ei gweld fel bod ganddi ddull cliriach a mwy penodol o fynd i’r afael â’r problemau y mae pobl yn eu hwynebu.

Stephen Mulligan

Pwysleisiodd Stephen Mulligan (SM) o Gymdeithas Proffesiynau Cwnsela Prydain (BACP) sut mae’r pwysau presennol yn effeithio ar gleientiaid sy’n torri’n ôl ar sesiynau therapi oherwydd y gost, sy’n arwain at fwy o atgyfeiriadau GIG a mwy o bwysau ar wasanaethau trydydd sector.

Jemma Wray

Cyfeiriodd Jemma Wray (JW) at yr ymchwil a wnaed gan y Sefydliad Iechyd Meddwl gyda 5,000 o oedolion ledled y DU, gan nodi bod y ffigurau yng Nghymru yn uwch o ran lefelau pryder, ond yn adlewyrchu canfyddiadau’r gwaith a gyflwynwyd gan Chloe i raddau helaeth.

Ken Skates

Holodd KS a allai sefyllfa lle bo pobl yn gwadu’r argyfwng ar lefel y DU fod yn gwaethygu lefelau pryder pobl. Nododd y gallai fod mwy o waith i'w wneud o ran dangos tosturi a dealltwriaeth a chydnabod nad yw pobl ar eu pen eu hunain.

Lloyd Watkins

Holodd Lloyd Watkins (LlW) ynghylch gweithredu’r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol gan Lywodraeth Cymru, a gofynnodd pa waith sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd yn y maes hwnnw i ddatblygu cyllidebau gyda’r ddyletswydd hon mewn golwg.

Nododd KS fod llywodraeth leol ar hyn o bryd yn ei chael hi'n anodd diwallu’r galw a chyflawni swyddogaethau craidd, ac y gallai ceisio cefnogi unigolion a theuluoedd gydag effaith economaidd gan Lywodraeth y DU fod yn hynod heriol.

Linda Newton

Agorodd Linda Newton (LN) drafodaeth am gyllid y trydydd sector gan nodi bod llawer mwy o bobl bellach yn ceisio cymorth yn lleol, gan arwain at gystadleuaeth enfawr am gronfeydd elusennol ac angen dirfawr i’r trydydd sector sicrhau cyllid.

O ran gwasanaethau cymunedol, gofynnodd KS a oes carfan o bobl yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymarfer corff i helpu gyda'u hiechyd meddwl. Cyfeiriodd Steve Williams (SW) o Chwaraeon Cymru at draciwr gweithgareddau’r sefydliad a oedd yn gofyn am weithgareddau dros 1,000 o bobl ledled Cymru. Nododd fod y canlyniadau'n dangos bod y mwyafrif helaeth o bobl yn cymryd rhan mewn chwaraeon, ond bod y gair hwnnw’n aml yn cael ei stigmateiddio, gyda phobl yn ffafrio'r term ymarfer corff sy'n cwmpasu pob gweithgaredd gan gynnwys mynd allan a cherdded. Pwysleisiodd fod cost yn broblem i ddarparu'r gwasanaethau hyn.

Lowri Wyn Jones

Soniodd Lowri Wyn Jones (LWJ) am stigma fel rhwystr i bobl rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau ymarfer corff gan eu bod ofn teimlo cywilydd ac ofn peidio cael eu derbyn. Soniodd am waith ymgyrch Amser i Newid Cymru, ac anogodd bobl i feddwl ac ystyried ymhellach sut i godi ymwybyddiaeth a mynd i’r afael â stigma, yn enwedig o ystyried y cysylltiad rhwng tlodi ac iechyd meddwl gwael.

CAM GWEITHREDU: CH a LWJ i drafod ymhellach

Kathryn Morgan

Awgrymodd Kathryn Morgan (KM) o Shared Lives Plus y dylid siarad â phobl sydd wedi’u rhyddhau’n ddiweddar o wardiau iechyd meddwl ac ysbytai ynglŷn â’r ffactorau a arweiniodd at eu cyfnod yn yr ysbyty. Cefnogodd ymgyrch Adferiad i ddatblygu a gwella cynlluniau gofal a thriniaeth ar ôl rhyddhau cleifion. Soniodd fod ei sefydliad hi yn un sy’n darparu cymorth hanfodol i bobl sy’n dychwelyd i fywyd teuluol ar ôl cyfnod yn yr ysbyty, a phwysleisiodd bwysigrwydd cynaliadwyedd y gwasanaethau hyn yn y dyfodol.

Richard Jones

Nododd Richard Jones (RJ) y gwasanaethau eiriolaeth a ddarperir gan Mental Health Matters, a'r anhawster y mae'r sefydliad (ac eraill) yn ei wynebu wrth orfod ychwanegu at gostau'r gwasanaethau drwy eu cronfeydd wrth gefn eu hunain. Pwysleisiodd bwysigrwydd y trydydd sector o ran dal y system at ei gilydd a'r risg y byddai rhai sefydliadau yn gorfod dod i ben oherwydd diffyg cyllid.

Simon Jones

I gloi, awgrymodd SJ y dylid trafod y pwynt ynghylch y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yn fanylach, gan ystyried sut a beth y mae’n ei olygu i iechyd meddwl ac a oes cyfle i adeiladu o amgylch y ddyletswydd honno.

Awgrymodd KS y dylid drafftio llythyr at y Gweinidog Cyllid i ofyn a yw hwn yn rhywbeth y gellid ei drafod ac a allai fod yn destun dadl gan Aelodau’r Senedd yng nghyd-destun yr argyfwng costau byw.

CAM GWEITHREDU: SJ i ddrafftio llythyr

Gwahoddwyd yr aelodau i anfon unrhyw awgrymiadau ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol at SJ.

Daeth y cyfarfod i ben am 13.30pm. Bydd y cyfarfod nesaf ar 31 Ionawr 2024.